Pan groesawon ni’r Flwyddyn Newydd ar y 1af o Ionawr 2020, ni allem fod wedi rhagweld y byddai’r byd wedi newid cymaint mewn ychydig fisoedd. Mae’r pandemig Coronafeirws wedi golygu bod pob un ohonom wedi ein heffeithio. Mae’r mwyafrif ohonom wedi gorfod addasu ein bywydau beunyddiol mewn cymaint o ffyrdd ac, i rai ohonom, bu newidiadau mwy difrifol nag eraill.
Yn ystod y cyfnod hwn, gwyddwn fod gofal iechyd pobl wedi newid. Rydym wedi clywed cymaint o storiâu am y sialensiau y mae pobl wedi’u hwynebu. Ond nid dim ond gwrando ar y storiâu hyn y gwnaethom, ac nid dim ond eu cofnodi nhw y gwnaethom, rydym wedi bod yn eu defnyddio nhw. Rydym wedi bod yn ceisio sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, cynllunwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill, yn deall beth mae hyn yn ei olygu i bobl gyffredin yn ein trefi a’n pentrefi ledled Cymru, fel eu bod nhw wedyn yn gallu gwneud rhywbeth i’w wella.
Nid yw’r pandemig Coronafeirws wedi dod i ben. Gwyddwn y bydd tymor y gaeaf yn heriol am sawl rheswm. Mae’r cyfnod clo, dros fisoedd y gwanwyn a’r haf, eisoes wedi bod yn anodd. Mae pobl yn poeni am gyfnod clo arall, neu gyfyngiadau ar eu bywydau beunyddiol. Yn ystod y don gyntaf, gwyddwn na wnaethon ni, yn ardal Hywel Dda, brofi’r nifer helaeth o achosion a amlygodd mewn mannau eraill. Ni all unrhyw un ragweld beth fydd yn digwydd nesaf, ac mae’r math hwnnw o ansicrwydd yn gwneud i ni gyd deimlo’n ofnus iawn.
Rydym am barhau i glywed eich profiadau ac rydym am barhau i geisio gwella pethau. Er mwyn deall sut y gallwn eich helpu orau, rydym am sôn rhywfaint am yr hyn yr ydym wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. Y ffordd rwyddaf o wneud hyn yw edrych ar stryd ddychmygol o bobl, a allai fod yn unrhyw le yn ardal Hywel Dda, i weld beth mae ein gwaith wedi’i olygu i’r trigolion. Ni allwn gynnwys stori neu brofiad pawb, ond rydym am ddweud wrthych ein stori am ein pandemig cyntaf fel sefydliad.