Diffinnir eiriolaeth fel "rhoi cefnogaeth weithredol". Dyma rôl ein Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion sydd yma i'ch cefnogi os nad ydych yn fodlon ag unrhyw agwedd ar ofal y GIG yr ydych wedi'i dderbyn ac yn dymuno gwneud cwyn. I ddeall mwy edrychwch are ein Llyfr Achos Eiriolaeth
Ynglŷn â'n staff eirioli cwynion a'n gwasanaeth
Mae ein holl staff eiriolaeth cwynion wedi'u hyfforddi. Mae gan ein heiriolwyr cwynion y Cymhwyster Eiriolaeth Cenedlaethol. Rydym yn darparu ein gwasanaeth eirioli cwynion yn unol â safonau cenedlaethol a osodwyd gan Fwrdd CICau yng Nghymru.
Yr hyn y gall ac na all ein gwasanaeth eirioli cwynion ei wneud
Gall ein gwasanaeth eirioli cwynion:
- Cefnogi chi i gwyno am wasanaeth, gofal neu driniaeth a ddarperir neu y telir amdani gan y GIG
- Cefnogi chi i gwyno ar ran rhywun arall, gan gynnwys a yw rhywun wedi marw
- Gwrando ar eich pryderon
- Cyfeirio chi at sefydliadau eraill os credwn y gall rhywun arall helpu hefyd
- Ateb cwestiynau am broses pryderon y GIG ac egluro'ch opsiynau
- Darparu canllaw cam wrth gam i broses pryderon y GIG a chynnig rhai awgrymiadau
- Rhoi eiriolwr cwynion hyfforddedig i chi, gweithiwr profiadol a all eich helpu i godi eich pryder a'ch cefnogi trwy'r broses.
Ni all ein gwasanaeth eirioli cwynion:
- Gwneud penderfyniadau ar eich rhan
- Cynnig barn ar ddilysrwydd pryder
- Cynnig barn glinigol neu roi cyngor meddygol
- Cynnig cyngor am ofal a thriniaeth barhaus
- Ymchwilio i bryderon
- Darparu cefnogaeth gyda Phaneli Cais Gofal Iechyd Parhaus neu Gyllido Cleifion Unigol
- Darparu cefnogaeth mewn cwestau
- Cynnig cefnogaeth ychwanegol fel profedigaeth a chwnsela. Gellir darparu manylion cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol o'r fath os oes angen
- Helpwu chi i godi pryder eich hun os ydych chi o dan 18 oed
- Fel arfer, gweithio ar bryderon sydd dros 12 mis oed oni bai eich bod newydd ddarganfod bod gennych achos i gwyno, neu fod gennych ryw reswm da arall dros beidio â chodi'ch pryderon yn gynt
- Rhoi cyngor cyfreithiol neu help gyda chamau cyfreithiol
- Help gyda materion nad ydynt yn dod o dan reoliadau cwynion y GIG. Mae hyn yn cynnwys pethau fel triniaeth a ariennir yn breifat
- Sicrhau ddisgyblu staff y GIG
- Helpu chi os nad ydych chi'n byw yng Nghymru.
Hyd yn oed os na allwn helpu gyda mater, efallai y byddwn yn gallu eich cyfeirio at rywun arall a all helpu. Gofynnwch i ni.
Pryd all ein Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion helpu?
Dyluniwyd proses bryderon GIG Cymru “Gweithio i Wella” i helpu pobl i leisio eu pryderon a lle bo modd, eu datrys.
Mae'n annog pobl i siarad â'u darparwr gofal iechyd a allai o bosibl gael rhywbeth yn iawn yn y fan a'r lle. Os nad ydych yn siŵr, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r person iawn i siarad ag ef.
Gall ein gwasanaeth eirioli cwynion eich helpu chi ar unrhyw gam ym mhroses pryderon GIG Cymru.
Mae gennym ganllawiau ar ysgrifennu eich llythyr cwyno eich hun
Sut i gael help
Cliciwch am ffurflen ‘Cais am Gymorth’ ar-lein neu ffurflen i lawrlwytho ac argraffu a’i dychwelyd atom yn:
CIC Hywel Dda,
Ystafell 5,
Llawr 1af,
Tŷ Myrddin,
Caerfyrddin,
SA31 1LP.
NEU CYSYLLTWCH Â'R GWASANAETH EIRIOLAETH AR 01646 697610 NEU E-bostio Complaints.Advocacy2@waleschc.org.uk
Pauline Marr a Sarah Knight (Eiriolwyr Cleifion / Cwynion)
Victoria McNeil (Swyddog Cymorth Eiriolaeth)