Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC) yw llais annibynnol pobl yng Nghymru sy’n defnyddio gwasanaethau GIG. Rydym yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sy'n adlewyrchu'r safbwyntiau ac yn cynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn eu cymunedau lleol. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i annog eraill i ddweud eu dweud am wasanaethau GIG, a bod yn gyswllt pwysig rhwng y rheiny sy’n cynllunio a chyflenwi gwasanaethau GIG, y rheiny sy’n eu harchwilio a’u rheoleiddio, a’r rheiny sy’n eu defnyddio.
Fe fyddi di’n derbyn hyfforddiant llawn a chefnogaeth i dy alluogi di i gyflawni dy rôl ac fe fydd unrhyw ‘dreuliau parod’, megis costau teithio, yn cael eu had-dalu.
Mae gwybodaeth mewn ffordd hawdd i ddarllen
Am fwy o wybodaeth, cyswllt: https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus 02920 825 454