Rhaid i fyrddau iechyd lleol gynllunio, dylunio a datblygu gwasanaethau'r GIG gyda phobl leol, o'r dechrau. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd lleol yn diwallu anghenion y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn y presennol a'r dyfodol.
Rhaid i Fyrddau Iechyd ddweud wrth eu CIC lleol pryd maen nhw am wneud newid sy'n effeithio ar bobl. Rhaid i CICau weithio gyda'u Bwrdd Iechyd pryd bynnag y mae'n ystyried gwneud newid.
Mae CICau yn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd a chleifion. Mae CICau yn sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn gofyn i bobl am eu barn ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.