Rydym yn gwneud mwy na chynnig ymatebion i faterion a godir gan eraill; rydym yn cyflwyno’r achos dros newid mewn perthynas â'r materion hynny sydd bwysicaf i gleifion a'r cyhoedd, gan ddisgrifio’r meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau, a dwyn y GIG yng Nghymru i gyfrif am ei berfformiad.
Gan weithio drwy Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, gweithiodd y saith CIC yng Nghymru ar bedwar prosiect cenedlaethol yn ystod 2019-2020.
Roeddem yn awyddus i glywed barn pobl ledled Cymru am y GIG yn y meysydd allweddol canlynol:
Roedd y CICau hefyd yn cadw llygad barcud ar y cynnydd a oedd yn cael ei wneud mewn ymateb i'r prosiectau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.